Crynodeb
Fframwaith addysgol ar gyfer oedolion sy’n dysgu iaith newydd yw Dull y Bedwaredd Wal a ddatblygwyd gan Delyth Eirwyn. Mae'n tynnu ar dri maes gwahanol sydd wedi eu sefydlu eisoes ond heb eu cysylltu, sef system hyfforddi actorion Stanislavski, Mantell yr Arbenigwr Dorothy Heathcote, ac egwyddorion Theatr Broses (dysgu drwy’r broses waith ymarferol).
Prif yrrwr y dull yw cysylltu ymwybyddiaeth gorfforol gyda’r dychymyg drwy fabwysiadu rôl i feithrin rhuglder mewn iaith newydd. Mae'r fframwaith yn seiliedig ar un sylw canolog: nad diffyg gwybyddol yw prif rwystr oedolion rhag meistroli iaith newydd, ond rhwystrau seicolegol — ofn beirniadaeth, pryder am wneud camgymeriadau, a'r her o hunanfynegiant mewn iaith anghyfarwydd. Drwy wahodd dysgwyr i ymgorffori rôl ‘hunan arall’ dychmygol, mae'r dull yn galluogi unigolyn i anwybyddu’r hidlydd affeithiol (Krashen, 1982) ac yn creu cyfle gwell i gyfathrebu. Defnyddir angorau gramadeg corfforol, gwaith byrfyfyr, yn ogystal â chwarae rôl yr arbenigwr i gryfhau caffael iaith ymhellach.
Pwrpas y ddogfen hon yw cyflwyno sylfaen damcaniaethol, adeiladwaith ymarferol, a rhesymeg addysgeg Dull y Bedwaredd Wal, gan gyfeirio at ymchwil sy’n bodoli yn y meysydd hyn.
I.Cyflwyniad: Problemau posib gydag Addysg Iaith Draddodiadol
Bu datblygiadau methodolegol amlwg ym maes addysgu ieithoedd yn ystod y degawdau diwethaf — o'r Dull Gramadeg-Gyfieithu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i Ieithyddiaeth Glywedol, Addysgu Iaith Gyfathrebol, a Dysgu yn Seiliedig ar Dasgau. Er hyn, mae heriau’n dal i fodoli rhwng caffael iaith mewn ystafell ddosbarth a chyfathrebu hyderus ac ymarferol ar lafar. Efallai bydd dysgwr yr ystafell ddosbarth yn gallu cydgysylltu berfau afreolaidd yn hyderus, defnyddio'r amser perffaith yn briodol, a llwyddo mewn arholiadau ysgrifenedig — ond eto caiff ei barlysu’r eiliad y mae siaradwr brodorol yn gofyn cwestiwn syml mewn awyrgylch ffurfiol yn y gweithle.
Nid problem gwybodaeth yw hyn. Problem seicolegol ydyw.
Mae hunaniaeth yr oedolyn sy'n dysgu iaith dramor wedi'i lunio'n llawn yn ei iaith gyntaf eisoes — yr hunan cymdeithasol a adeiladwyd yn ofalus dros ddegawdau. I lawer, mae cyfathrebu heb fod yn rhugl mewn ail neu drydedd iaith yn golygu datgymalu'r hunaniaeth honno: yn eu tyb eu hunain, maent yn llai deallus, yn llai awdurdodol ac efallai’n llai teilwng o sylw.
Dyma'r wal seicolegol y mae’r dull yma’n bwriadu ei dymchwel.
“Nid cymhlethdod yr iaith yw'r rhwystr mwyaf i gaffael iaith fel oedolyn. Yn hytrach — ofn y dysgwr ei hun o gael ei weld yn methu.”
II.Sail Ddamcaniaethol
Mae'r dull yn cyfosod pedwar prif gorff ymchwil: damcaniaeth caffael ail iaith, gwyddoniaeth gwybyddiaeth gorfforol, hyfforddiant actorion Stanislavski, ac addysgeg Drama Broses. Amlinellir pob llinyn isod.
2.1 Damcaniaeth Caffael Ail Iaith: Yr Hidlydd Affeithiol
Noda Stephen Krashen gyfres o ragdybiaethau yn ei Fodel Monitro (1982) ynghylch sut mae ail iaith yn cael ei gaffael. Codir rhai pwyntiau hynod o berthnasol i’r hyn a gaiff ei ystyried yma. Mae'r Rhagdybiaeth Mewnbwn (Input Hypothesis) yn cynnig bod iaith yn cael ei chaffael pan fydd dysgwyr yn derbyn mewnbwn dealladwy ychydig y tu hwnt i'w lefel bresennol — yn hytrach na'i dysgu'n ymwybodol. Yna, mae'r Rhagdybiaeth Hidlydd Affeithiol (Affective Filter Hypothesis) yn cyflwyno stad feddyliol holl bwysig. Hyd yn oed pan gyflwynir mewnbwn dealladwy, gall rhwystr seicolegol mewnol — sy'n codi mewn sefyllfaoedd o straen, hunan ymwybyddiaeth, neu ofn beirniadaeth negyddol — rwystro cynnydd yn y dysgu. Felly, mae caffael iaith yn dibynnu nid yn unig ar ansawdd y mewnbwn addysgol ond ar gyflwr emosiynol y dysgwr sy'n ei dderbyn.
I ddysgwyr sy'n oedolion mewn cyd-destunau proffesiynol — rheolwyr a gweithwyr proffesiynol rhyngwladol — mae'r hidlydd affeithiol yn gweithredu ar ei uchaf yma. Mae amherffeithrwydd ieithyddol ar lafar yn cael ei ystyried gan yr unigolyn fel methiant proffesiynol yn hytrach nag un academaidd yn unig. Mae'r dull yn mynd i'r afael â hyn trwy gynnig cyfle i'r dysgwr ddefnyddio'r dychymyg. Caiff dysgwyr eu cefnogi, o ganlyniad, gan nad yw dysgwyr yn siarad fel eu hunain, ond fel cymeriad sydd eisoes yn rhugl, eisoes yn hyderus, eisoes yn bresennol — wrth ystyried technegau Stanislavski ar hyfforddi actorion.
Cysyniad Allweddol: Y Masg Ffuglen
Pan fydd dysgwr yn camu i mewn i gymeriad, maen nhw'n camu allan o hunanfeirniadaeth. Mae'r ego — gyda'r ofn o gael ei weld yn methu — yn encilio. Mae'r dychymyg yn camu ymlaen. Yn y stad feddyliol newydd yma, mae iaith yn llifo'n fwy rhydd, mae’r parodrwydd i fentro’n fwy parod, ac mae caffael iaith yn cyflymu. Y defnydd o’r dychymyg yw'r sgaffald. Yr hunan hyderus, mwy rhugl a gaiff ei ryddhau.
2.2 Ymwybyddiaeth Gorfforol ac Effaith Gweithredu
Mae corff sylweddol o ymchwil ym myd gwyddoniaeth wybyddol yn cefnogi'r ddadl bod ymwybyddiaeth a symudiadau corfforol â chaffael iaith yn brosesau sy'n cysylltu’n gryf â’i gilydd. Dadl y ddamcaniaeth hon yw bod prosesau gwybyddol — sy’n cynnwys dealltwriaeth ieithyddol a chynhyrchu iaith — wedi'u seilio ar brofiad synhwyraidd-weithredol. Ni chaiff iaith ei rhoi ar gof a chadw fel symbol haniaethol yn unig; caiff ei hamgodio trwy’r gweithredoedd corfforol, cyfeiriadau gofodol, a phrofiadau synhwyraidd y mae'n gysylltiedig â nhw (Barsalou, 1999; Glenberg, 2010; Kiefer a Trumpp, 2012).
Yr hyn sy’n berthnasol i ddull y Bedwaredd Wal yw'r Effaith Perfformio (Enactment Effect). Mae'r canfyddiad wedi'i ddogfennu eisoes bod symudiad sy'n gysylltiedig â gair neu ymadrodd yn gorfforol yn cynhyrchu olion cof llawer cryfach nag ymarfer llafar mewn llonyddwch neu’n ysgrifenedig yn unig. Dangosodd astudiaeth a ddyfynnwyd yn eang gan Winter et al (2007) fod dysgu geirfa’n digwydd tua 20% yn gyflymach yn dilyn ymarfer corff dwys o'i gymharu ag ymarfer corff dwyster isel neu orffwys. Roedd yr effaith yn gysylltiedig â lefelau uwch o Ffactor Niwrotroffig sy'n Deillio o'r Ymennydd (BDNF) a catecholaminau, niwro-gemegion sy'n cefnogi hyblygrwydd synaptig a ffurfio cof. Mae ymchwil dilynol wedi parhau i archwilio'r berthynas rhwng gweithgareddau corfforol a chaffael geirfa ail iaith (Liu et al., 2017).
Rhy'r Dull yma’r canfyddiadau hyn ar waith trwy system o Angorau Gramadeg Corfforol: ystumiau corfforol, cinesthetig wedi'u paru â strwythurau gramadegol penodol. Mae pob angor yn cysylltu elfennau gramadegol o iaith nid yn unig fel rheol i'w chofio ond fel profiad corfforol i'w gofio.
Angorau Gramadeg Corfforol: Enghreifftiau
- Berfau’r gorffennol — Symudiad llaw finiog, tuag i lawr y tu ôl i'r ysgwydd, yn symboleiddio gweithred orffenedig.
- Y Presennol — Tynnu llinell o’r tu ôl i’r ysgwydd i’r frest, yn symboleiddio’r bont o’r gorffennol i’r presennol.
- Yr amodol — Dal dwy gledr llaw allan yn agored fel clorian, gan bwyso’r ‘pe bai’ yn erbyn yr ‘yna’.
- Berfau moddol — Cyffwrdd y temlau (dynodi sicrwydd: rhaid) a chodi ysgwydd (dynodi posibilrwydd: gallai).
Daw'r enghreifftiau yma'n uniongyrchol o fethodoleg Ymateb Gorfforol Cyflawn (TPR) James Asher (1969). Canfu cyfosodiad o waith ymchwil amrywiol yn 2021 o ymyriadau TPR (İnciman Çelik, Çay a Kanadlı, 2021). Er bod llawer o'r ymchwil sylfaenol yn canolbwyntio ar ddysgwyr iau, mae'r mecanweithiau sylfaenol (amgodio amlfodd trwy symudiad a llwyth affeithiol llai) yr un mor berthnasol i gaffael oedolion.
2.3 Dull Stanislavski: Defnydd o’r Dychymyg, Presenoldeb, a’r Petai Hud
Datblygodd Konstantin Stanislavski (1863-1938), yr ymarferydd theatr Rwsiaidd a greodd system o hyfforddi actorion yn yr ugeinfed ganrif, set o egwyddorion sydd â pherthnasedd uniongyrchol i addysgeg iaith. Roedd Stanislavski, yn anad dim, yn poeni am bresenoldeb ymrwymedig: gallu'r actor i fod yn wirioneddol yn y foment, gan ymateb yn onest yn hytrach na pherfformio'n fecanyddol.
Y Petai Hud
Un o brif arfau Stanislavski i ddatgloi perfformiad gonest wrth hyfforddi actorion oedd y defnydd o ddychymyg actor yn gofyn y cwestiwn: ‘Pe bawn i yn y sefyllfa hon, sut fyddwn i'n ymddwyn?’ Mae'r ‘Pe bawn i..’ yn gwahodd y dychymyg i ymgysylltu gyda bwriad yr unigolyn, heb i'r ego deimlo ei fod yn dweud celwydd neu'n esgus. Nid ‘Fi yw'r person hwn’ ydyw; ond ‘Pe bawn i'r person hwn, beth fyddwn i'n ei wneud?’
Mae hyn yn berthnasol hefyd yn yr ystafell ddosbarth iaith, sy’n trosglwyddo'n uniongyrchol. Ni ofynnir i'r dysgwr esgus bod yn rhugl. Ond yn hytrach gofynnir iddynt ofyn y cwestiwn: ‘Petaech chi'n rhywun sydd eisoes yn siarad yr iaith yn gwbl hyderus, sut fyddech chi'n dechrau'r frawddeg hon?’ Mae'r dychymyg yn pontio'r bwlch rhwng y gallu presennol a'r rhuglder a ddymunir, gan greu cyflwr dros dro ond niwrolegol gwir o ryddid cyfathrebu a ffocws cymhelliant.
Amgylchiadau Gosodedig a Chyn-Amser
Cred Stanislavski fod perfformiad oedd yn adlewyrchu’r gwirionedd yn gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o ‘amgylchiadau gosodedig’ y cymeriad: popeth sydd wedi digwydd yn hanes y cymeriad cyn i'r olygfa ddechrau. Drwy wreiddio ymddygiad y cymeriad yn ei stori ddychmygol fanwl, mae'r actor yn gallu cyflwyno cymeriad o safbwynt seicolegol dilys a gwneud dewisiadau credadwy sy’n gweddu i gymeriad.
Mewn sesiynau iaith, drwy’r dull yma, caiff dysgwyr eu hannog i lunio hunaniaeth dychmygol i’r ‘cymeriad’ maent am ei drosglwyddo mewn tasgau cyfathrebu: pwy yw eu cymeriad, beth maen nhw wedi'i gyflawni, beth sydd yn y fantol yn y foment bresennol. Mae'r ymarfer ‘Cyn Amser’ yma’n cynhyrchu newid mesuradwy yn ansawdd a hyder y dysgwr ar lafar, wrth iddynt siarad o safbwynt awdurdod dychmygol yn hytrach na diffyg hyder yn hunan-danseilio.
Uwch amcan a chymhelliant
Amlinellwyd gan Stanislavski fod rhaid i bob llinell o ddeialog gario bwriad mewn golygfa, sef cymhelliant cymeriad i weithredu ac effeithio cymeriad arall. Fe all hyn fod yn cael ei symleiddio i fod ar ffurf berf weithredol sy'n disgrifio'r hyn y mae'r siaradwr yn ceisio'i wneud i'w wrandäwr. Mae'r egwyddor yma’n gallu trawsnewid iaith o gyfres o strwythurau gramadegol i fod yn arf i gyfathrebu’n glir a phwrpasol: gellid dewis berfau gweithredol megis perswadio, sicrhau, herio, cysuro fel cymhelliant siaradwr a ffocysu ar fwriad y cyfathrebu.
O fewn y Dull Bedwaredd Wal, gwahoddir dysgwyr yn rheolaidd i nodi eu bwriad cyn siarad. Mae'r ddisgyblaeth syml hon yn trawsnewid ansawdd llafar o fod yn betrusgar i ganolbwyntio ar fod yn bwrpasol ac eglur.
“Yn y theatr, fel yn yr ystafell ddosbarth iaith, nid yw cyfathrebu effeithiol yn ddibynnol ar berffeithrwydd. Mae'n dibynnu ar fwriad gwirioneddol sy’n cwrdd â sylw gwirioneddol yn y foment.”
— Dull y Bedwaredd Wal2.4 Theatr Broses: Addysgeg ar ffurf Drama
Mae Theatr Broses, a elwir weithiau'n Ddrama Broses, yn fath o ddrama addysgol ble nid cynhyrchu perfformiad i gynulleidfa’n unig yw'r nod ond archwilio’r profiad dramatig trwy'r weithred o greu darn o waith dramatig, hynny yw — y broses. Mae cyfranogwyr yn actorion a hefyd yn arsylwyr ar eu hymatebion eu hunain ar yr un pryd; mae'r ‘ddrama’ yn gweithredu fel labordy ar gyfer ymddygiad dynol a chyfathrebu.
Yn wahanol i chwarae rôl gonfensiynol a byrfyfyr yn y theatr, sy'n tueddu i gynhyrchu perfformiadau gwrth naturiol, mae Theatr Broses yn creu cyd-destunau ffuglennol gwirioneddol sy’n trochi’r cyfranogwyr yn llwyr i’r foment ac yn creu’r angen am gyfathrebu clir. Mae dysgwyr yn siarad oherwydd bod y sefyllfa'n mynnu hynny.
Mae'r goblygiadau ar gyfer caffael iaith yn arwyddocaol. Mae Addysgu Iaith Gyfathrebol — dull a adeiladwyd o waith Hymes (1972) ar gymhwysedd cyfathrebol, ac a ddatblygwyd ymhellach gan Canale a Swain (1980) — yn dadlau nad trwy ymarfer iaith mewn gwagle y mae ei chaffael yn effeithiol, ond trwy ei defnyddio mewn sefyllfaoedd cyfathrebol go iawn. Hynny yw, mae angen pwrpas gwirioneddol ar y dysgwr, cynulleidfa wirioneddol, a chanlyniad gwirioneddol i'r hyn a ddywedir.
Dyma mae Theatr Broses yn ei gynnig. Nid drama berfformiadol mohoni — nid oes cynulleidfa, nid oes sgript, ac nid oes actorion yn chwarae rhannau. Yn hytrach, mae cyfranogwyr yn ymgolli mewn senarios ffuglennol lle mae penderfyniadau go iawn yn cael eu gwneud, risgiau go iawn yn cael eu hwynebu, ac iaith go iawn yn cael ei defnyddio — ond o fewn fframwaith ddiogel sy'n tawelu'r hidlydd affeithiol (Krashen, 1982). Mae'r ffuglen yn cynnig rhyddid seicolegol; y sefyllfa yn creu'r angen cyfathrebol. Y canlyniad yw caffael iaith sy'n berthnasol ac yn ddwfn, oherwydd nid ymarfer yw'r weithred hon — mae'n brofiad.
Technegau Allweddol Theatr Broses o fewn Dull y Bedwaredd Wal
- Byrfyfyrio — gwaith golygfa digymell, heb ei sgriptio sy'n creu’r angen i gyfathrebu pwrpasol ac yn datblygu gallu'r dysgwr i ymateb heb baratoi.
- Athro mewn Rôl — mae'r arweinydd yn creu cymeriad o fewn y senario, gan greu tensiwn dramatig a modelu defnydd o iaith pwrpasol ar lefel addas i anghenion y dysgwr.
- Y Gadair Goch — mae cymeriad (a chwaraeir gan ddysgwr) yn cael ei holi gan y grŵp, gan ei gwneud yn ofynnol i gyfathrebu’n barhaus ac yn ddigymell o dan bwysau.
- Lluniau Llonydd a Tableau — delweddau llonydd a grêwyd gan y grŵp sy'n crisialu eiliad yn y senario, gan roi cyfle i fyfyrio, datblygu geirfa ac ymateb strwythuredig.
- Olrhain Meddyliau — lleisio meddyliau mewnol cymeriad, datblygu gallu'r dysgwr i fynegi'n emosiynol ac yn seicolegol yn yr iaith darged.
- Coridor Cydwybod — mae dau res o ddysgwyr yn lleisio safbwyntiau gwrthwynebol wrth i gymeriad gerdded rhyngddynt, gan ymarfer perswadio, anghytuno ac iaith fodel mewn cyd-destun perthnasol.
2.5 Dorothy Heathcote a Mantell yr Arbenigwr
Roedd Dorothy Heathcote (1926–2011) yn addysgwraig drama Brydeinig y mae ei dylanwad ar arfer ystafell ddosbarth — yn enwedig mewn addysg gynradd ac uwchradd — wedi bod yn drawsnewidiol. Dyfarnwyd MBE iddi yn 2011 am ei gwasanaethau i ddrama mewn addysg, ac mae hi'n cael ei chydnabod yn eang o fewn cylchoedd drama ac addysg, er bod ei gwaith yn parhau i fod yn llai cyfarwydd mewn cyd-destunau addysgu oedolion ac ail iaith. Ei chyfraniad mwyaf arwyddocaol oedd datblygu Mantle of the Expert (MoE): dull addysgeg lle mae dysgwyr yn cael eu lleoli nid fel myfyrwyr sy'n derbyn cyfarwyddyd ond fel gweithwyr proffesiynol lefel uchel — arbenigwyr — y mae'n rhaid iddynt gymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys problem wirioneddol a brys ar ran cleient comisiynu.
Mae'r egwyddor yn gain ac yn ddofn. Pan ddywedir wrth ddysgwr ei fod yn fyfyriwr, maent yn mabwysiadu stad seicolegol myfyriwr: dibynnol, ansicr, yn aros am arweiniad. Pan ddywedir wrthynt eu bod yn arbenigwyr — cyfreithiwr, pensaer, gwyddonydd, prif weithredwr — maen nhw'n mabwysiadu stad seicolegol yr arbenigwr: cyfrifol, galluog, ac awdurdodol. Mae eu hiaith yn dilyn eu stad meddyliol.
I ddysgwyr iaith sy'n oedolion mewn cyd-destunau proffesiynol, mae'r ailfframio hwn yn arbennig o bwerus. Nid yw'r gweithredwr sy'n rhewi pan ofynnir iddo siarad mewn cyfarfod yn gwneud hynny oherwydd nad oes ganddo gymhwysedd proffesiynol. Maen nhw'n rhewi oherwydd bod hunaniaeth ‘dysgwr’ yn disodli hunaniaeth ‘uwch weithiwr proffesiynol’ dros dro. Mae Mantell yr Arbenigwr yn adfer yr hunaniaeth broffesiynol fel y prif hunaniaeth, gan ganiatáu i’r iaith darged gael ei defnyddio fel arf sy’n perthyn i’r hunaniaeth broffesiynol honno yn hytrach na thystiolaeth nad yw’n ddigon da.
Mantell yr Arbenigwr: Strwythur Ymarferol
- Y Comisiwn — mae dysgwyr yn derbyn briff brys, penodol gan gleient ffuglennol (e.e. corfforaeth, corff llywodraeth). Mae'r briff yn gofyn bo’r dysgwyr yn defnyddio strwythurau iaith darged er mwyn datrys y sefyllfa.
- Y Ffrâm Arbenigol — caiff dysgwyr eu sefydlu fel gweithwyr proffesiynol, neu arbenigwyr, sydd yn eu gosod yn flaenllaw i ymateb i'r comisiwn. Nid ydynt yn dysgu iaith; maent yn gwneud eu gwaith yn yr iaith darged.
- Yr Ymchwiliad — mae dysgwyr yn ymchwilio, yn trafod ac yn gwneud penderfyniadau i ddatrys y senario. Cynhyrchir defnydd iaith sy’n creu’r angen i gyfathrebu naturiol.
- Myfyrio — ar ddiwedd y sesiwn, mae dysgwyr yn camu y tu allan i'r senario ffuglennol i fyfyrio ar eu profiad, gan nodi'r iaith a ddefnyddiwyd ganddynt a'r strategaethau cyfathrebu a ddefnyddiwyd ganddynt.
Defnyddiwyd fframwaith Heathcote yn helaeth mewn lleoliadau addysgol cynradd ac uwchradd, yn enwedig mewn pynciau'r dyniaethau. Mae Dull y Bedwaredd Wal yn cynrychioli un o'r cymwysiadau systematig cyntaf o egwyddorion MoE i gaffael ail iaith oedolion mewn cyd-destunau proffesiynol.
III.Dull y Bedwaredd Wal: Synthesis
Nid yw Dull y Bedwaredd Wal yn defnyddio unrhyw un o'r fframweithiau uchod ar ei ben ei hunain. Ei gyfraniad penodedig yw synthesis o’r pedwar fframwaith i mewn i bensaernïaeth addysgeg gydlynol, wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr iaith sy'n oedolion mewn cyd-destunau proffesiynol.
Mae'r dull yn gweithredu trwy dair egwyddor gydgysylltiedig:
3.1 Y Mwgwd Ffuglennol: Gostwng yr Hidlydd Affeithiol
Mae pob sesiwn o Ddull y Bedwaredd Wal yn dechrau gyda chreu ffrâm ffuglen — senario, cymeriad, comisiwn — sy’n gwahodd dysgwyr i gamu allan dros dro o’u hunaniaeth bob dydd. Nid perfformiad theatrig yn yr ystyr gonfensiynol mo hwn; does dim cynulleidfa, dim sgript, a dim disgwyl sglein gwaith gorffenedig. Yn syml, mae'r mwgwd ffuglennol yn ddyfais ar gyfer rhyddhau'r dysgwr o faich seicolegol yr hunan-farnu a ddaw wrth ddysgu iaith newydd.
Mae'r mwgwd yn gweithio oherwydd gwirionedd syml ond dwys a fynegir gan Heathcote: pan fyddwch chi'n gyfrifol am gymeriad, rydych chi'n meddwl beth sydd angen iddyn nhw ei ddweud. Pan fyddwch chi'n gyfrifol amdanoch chi'ch hun, rydych chi'n meddwl beth rydych chi i fod i'w ddweud. Y symudiad o hunan-fonitro i ymgysylltu dychmygus yw'r ymyrraeth fwyaf pwerus sydd ar gael i'r hwylusydd iaith.
3.2 Trosi Corfforol: Y Corff yn gweithredu fel cof
Ail egwyddor y dull yw bod iaith yn cael ei chaffael yn yr hir dymor pan gaiff ei amsugno drwy ddefnydd o’r corff yn ogystal â'r meddwl. Mae pob strwythur gramadegol, pob eitem geirfa allweddol, pob pwrpas cyfathrebol a gyflwynir mewn sesiwn yn cael ei gysylltu â gweithred gorfforol sy'n creu ôl cof cinesthetig.
Mae'r amgodio triphlyg hwn — storio iaith fel sain, ystyr, a theimlad corfforol ar yr un pryd — yn cynhyrchu cyfraddau cofio sy'n sylweddol uwch na'r rhai a gyflawnir drwy ymarfer ysgrifenedig neu lafar yn unig, fel y'i cadarnheir gan y llenyddiaeth ymchwil ar wybyddiaeth ymgorfforol a'r Effaith Gweithredu a ddyfynnwyd uchod.
Canfu Macedonia a Knösche (2011) fod dysgu geirfa drwy baru geiriau â symudiad corfforol cynrychiadol yn gwella cadwraeth cof o 0.73 o safonau gwyriad — effaith gref yn ôl safonau ymchwil addysgeg — o’i gymharu â dysgu geirfa drwy ddulliau llafar yn unig. Mae Paivio (1971) yn rhoi sylfaen ddamcaniaethol i'r canfyddiad hwn: pan gaiff gwybodaeth ei hamgodio ar draws sawl system synhwyraidd ar yr un pryd — sain, ystyr, a theimlad corfforol — crêir cysylltiadau mwy cymhleth a chadarn yn y cof hirdymor, gan gynyddu'r tebygolrwydd o adalw llwyddiannus.
O fewn Dull y Bedwaredd Wal, nid ychwanegiad addurniadol yw'r elfen gorfforol — mae'n rhan annatod o'r broses amgodio ei hun.
3.3 Rheidrwydd Cyfathrebu: Iaith yn Gwasanaethu Gweithred
Y drydedd egwyddor, ac efallai'r egwyddor mwyaf sylfaenol yn null y Bedwaredd Wal, yw bod rhaid caffael iaith mewn amodau o angenrheidrwydd cyfathrebol gwirioneddol. Nid yw dysgwyr yn siarad oherwydd eu bod yn ymarfer strwythur; maent yn siarad oherwydd bod y sefyllfa — y ffuglen, y comisiwn, yr olygfa — yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.
Mae'r egwyddor hon yn tynnu'n uniongyrchol ar theori Addysgu Iaith Gyfathrebol a thraddodiad Theatr Broses fel ei gilydd. Fe'i gwireddir yn fwyaf llawn yn fframwaith Mantell yr Arbenigwr, lle mae'r comisiwn proffesiynol yn creu cyd-destun o sefyllfa brys. Rhaid i gyfreithiwr gynghori eu cleient. Rhaid i swyddogion gweithredol gyflwyno i'r bwrdd. Rhaid i'r pensaer egluro'r dyluniad. Nid yw'r iaith sydd angen ei dysgu wedi'i ffugio at ddibenion addysgeg; dyma'r iaith y mae'r sefyllfa'n ei fynnu ar ddysgwyr.
“Ni ddysgir iaith yn unig wrth baratoi ei defnyddio. Caiff ei chaffael wrth ei defnyddio — pan fo'r peryglon yn real, hyd yn oed os nad yw'r sefyllfa'n real.”
— Dull y Bedwaredd WalIV.Manteision Addysgegol: Tystiolaeth a Chanlyniadau
Mae'r canlyniadau canlynol wedi'u nodi trwy arsylwi ymarferwyr, hunan-asesiadau myfyrwyr, a'r llenyddiaeth ymchwil ehangach ar addysgeg iaith sy'n seiliedig ar ddrama.
4.1 Gostyngiad Mewn Pryder Siarad
Mae pryder siarad — a elwir yn ‘bryder iaith dramor’ yn y llenyddiaeth ymchwil (Horwitz, Horwitz a Cope, 1986) — yn cael ei nodi'n gyson fel y prif rwystr i oedolion i gynhyrchu iaith. Dangoswyd mewn sawl astudiaeth fod ymyriadau sy'n seiliedig ar ddrama yn cynhyrchu gostyngiadau sylweddol mewn lefelau pryder gan nodi mai’r fframwaith ffuglennol oedd y rheswm am gostyngiad hwn (Piazzoli, 2011; Stinson a Winston, 2011).
4.2 Gwell Rhuglder a Chynhyrchu Iaith Digymell
Mae byrfyfyrio a gwaith golygfeydd heb sgript yn datblygu'r hyn y mae ieithyddion cymhwysol yn eu galw'n ‘rhuglder awtomatig’: y gallu i gynhyrchu iaith heb sylw ymwybodol i ffurf. Awgryma ymchwil Kao ac O'Neill (1998) a Stinson a Winston (2011) fod gweithgareddau sy'n seiliedig ar ddrama yn esgor ar gyfraddau uwch o iaith ddigymell, a gychwynnwyd gan fyfyrwyr, o gymharu â gweithgareddau cyfathrebu confensiynol — gyda dysgwyr yn cynnal sgyrsiau hirach ac yn defnyddio ystod ehangach o strwythurau ieithyddol.
4.3 Cadw Geirfa Gwell ar Gof
Mae'r Effaith Gweithredu, fel y'i disgrifir yn Adran 2.2, yn cynhyrchu cyfraddau cadw geirfa sy'n sylweddol uwch na'r rhai a gyflawnir trwy gyflwyniad ac ymarfer confensiynol. Mae angori corfforol eitemau gramadegol a geirfa trwy ystum a symudiad yn sicrhau bod iaith yn cael ei storio ar draws systemau gwybyddol lluosog, gan wneud adalw’n fwy dibynadwy o dan amodau pwysau cyfathrebu ar lafar.
4.4 Datblygu Presenoldeb Cyfathrebol
Efallai mai canlyniad mwyaf nodedig Dull y Bedwaredd Wal — a'r mwyaf perthnasol i ddysgwyr proffesiynol — yw datblygu presenoldeb cyfathrebol: datblygiad ansawdd llais awdurdodol ac iaith sy’n cario bwriad clir, a bod wedi'i seilio'n gorfforol. Mae technegau gwaith anadlu, canoli corfforol, a gweithredu bwriadol Stanislavski yn cyfieithu'n uniongyrchol i sgiliau cyfathrebu proffesiynol gyda chyswllt llygad, taflu llais, a dewis iaith pwrpasol ynghlwm â’r technegau hyn.
4.5 Perchnogi Hunaniaeth mewn Iaith Darged
Canfyddiad arwyddocaol o ymchwil addysgeg iaith sy'n seiliedig ar ddrama yw bod dysgwyr sy'n ymgymryd â gwaith rôl estynedig yn datblygu ymdeimlad cryfach o berchnogaeth dros eu hunaniaeth yn yr ail iaith — yr hyn y mae Norton (1995, 2013) yn ei alw'n ‘fuddsoddiad’ yn yr iaith darged: cysyniad sy'n seiliedig ar safbwynt cymdeithasegol, ar wahân i gymhelliant seicolegol, sy'n dal ymrwymiad y dysgwr i'r iaith fel rhan o hunaniaeth sy'n datblygu. Mae dysgwyr yn peidio â phrofi'r iaith darged fel rhywbeth estron a gorfodol, ac yn dechrau ei phrofi fel estyniad o'r hunan hyderus, galluog. Pan gaiff y newid hwn ei gyflawni, mae'n barhaol.
V.Cymhwysiad: Y Dull ar Waith
Cyflwynir Dull y Bedwaredd Wal trwy Fourth Wall English a Fourth Wall Cymraeg yn y fformatau canlynol:
5.1 Siarad yn Hyderus: Rhaglen Ar-lein 8 Wythnos
Mae'r rhaglen yn cyflwyno fframwaith llawn y Bedwaredd Wal ar draws wyth sesiwn ar-lein 90 munud o hyd. Cyfyngir grwpiau i uchafswm o wyth cyfranogwr er mwyn sicrhau'r agosatrwydd a'r diogelwch seicolegol y mae'r dull yn gofyn amdano. Mae pob sesiwn yn dilyn adeiladwaith Cynhesu, Mewnbwn Iaith, Gwaith Theatr, a Myfyrio.
5.2 Presenoldeb Gweithredol: Hyfforddiant 1:1
Mae sesiynau hyfforddiant unigol yn cyfuno fframweithiau Stanislavski gyda Mantell yr Arbenigwr ar gyfer cyd-destun proffesiynol penodol y dysgwr. Teilwrir sesiynau i anghenion cyfathrebu uniongyrchol y dysgwr: cyflwyniadau, trafodaethau cyfarfodydd rhyngwladol, cyfweliadau cyfryngau, neu gyfathrebu arweinyddiaeth. Mae'r fformat 1:1 yn caniatáu cysylltu senarios ffuglennol i hunaniaeth broffesiynol ac anghenion y dysgwr.
5.3 Gweithdai Corfforaethol
Mae gweithdai hanner diwrnod a diwrnod llawn yn cyflwyno egwyddorion craidd Dull y Bedwaredd Wal i dimau proffesiynol. Teilwrir cynnwys y gweithdy i sector a heriau cyfathrebu'r sefydliad comisiynu, gan dynnu ar fframwaith Mantell yr Arbenigwr i greu comisiynau ffuglennol sy'n adlewyrchu'n uniongyrchol y cyd-destunau proffesiynol y mae cyfranogwyr yn gweithio ynddynt.
Pob erthygl